Ymchwiliad i’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y dyfodol – diweddariad cynnydd

gan Lywodraeth Cymru (Medi 2014)

Ar ôl cyhoeddi’r Ymchwiliad i’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y dyfodol (Mehefin 2013), bûm i a’m swyddogion yn ystyried argymhellion yr adroddiad fel rhan o’r ymgynghoriad ar ddatblygiad Cynllun Cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer Diabetes, a lansiwyd fis Medi 2013. Mae nifer o argymhellion yr adroddiad wedi’u cynnwys yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes. Gan mai hon yw blwyddyn gyntaf gweithredu’r cynllun, bydd yn cymryd amser i gyflawni’r holl gamau gweithredu sydd wedi’u nodi ynddo. Rwyf wedi ymrwymo o ddarparu adroddiadau blynyddol ar gynnydd y gwaith a bydd yr adroddiad cyntaf yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn. Mae cais y Pwyllgor am ddiweddariad yn y broses yn golygu mai’r cyfan y gallaf ei wneud yw cyfeirio at y cynnydd mewn rhai agweddau r lefel uchel o fewn y Cynllun Cyflawni. 

Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes

Lansiwyd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes ym mis Medi 2013, ac roedd mwyafrif argymhellion yr Ymchwiliad wedi’u cynnwys yn y Cynllun. Fis Hydref 2013, sefydlwyd Grŵp Gweithredu Diabetes GIG Cymru, i roi arweiniad strategol ar gyfer rhoi’r Cynllun Cyflawni ar waith ledled Cymru. 

Ar ôl ymarfer grŵp i randdeiliaid, pennodd y Grŵp Gweithredu ei flaenoriaethau ar gyfer ei flwyddyn gyntaf. Mae’r blaenoriaethau’n canolbwyntio ar bedwar maes penodol: gwella gofal i blant sydd â diabetes; atal diabetes yn ein poblogaeth; gwneud ein gwasanaethau mor effeithiol â phosib; a helpu pobl i reoli eu gofal. O dan y ffrydiau gwaith hyn, cafodd nifer o feysydd gweithgarwch penodol eu datgan a dylid bwrw ymlaen â hwy, naill ai yn ystod y flwyddyn gyntaf neu dros gyfnod llawn y Cynllun. Dyma rai o’r meysydd penodol: datblygu rhwydwaith diabetes pediatrig a gweithredu rhaglen asesu cymheiriaid yr uned diabetes pediatrig (mae’r ddau ar droed eisoes); cyflwyno system ar gyfer rheoli cleifion sydd â diabetes; datblygu llwybr cyflawn i’r claf ar gyfer gofal i’r traed; a datblygu cynigion ar gyfer cyflwyno addysg diabetes strwythuredig yn effeithiol. Hefyd, mae’r Grŵp Gweithredu Diabetes yn gweithio gyda’r Grŵp Gweithredu Clefyd y Galon ar adnabod risg ar draws meysydd y ddau glefyd. Bydd blaenoriaethau’r Grŵp Gweithredu yn cael eu llunio’n derfynol yn eu cyfarfod ddiwedd mis Medi 2014. Bydd llunio argymhellion y flwyddyn gyntaf yn derfynol ym mis Medi yn galluogi’r byrddau iechyd i roi ystyriaeth briodol iddynt fel rhan o’u cylch cynllunio blynyddol ac yn eu galluogi i’w cynnwys yn rhaglen waith y flwyddyn nesaf.

Mae’r byrddau iechyd i gyd wedi creu cynlluniau cyflawni lleol ar gyfer diabetes, sydd wedi ystyried blaenoriaethau strategol Cymru fel sydd wedi’u datgan gan y Grŵp Gweithredu Diabetes. Maent hefyd wedi cynnwys y canlyniadau allweddol o’u cynlluniau lleol yn eu cynlluniau tair blynedd integredig, er mwyn sicrhau eu bod yn rhan o gyfeiriad strategol cyffredinol eu bwrdd iechyd.                            

Mae proses fonitro gyffredinol wedi cael ei sefydlu yn awr ar gyfer holl gynlluniau cyflawni Llywodraeth Cymru. Ar gyfer diabetes, mae’n rhaid i’r byrddau iechyd gyflwyno data ar gynnydd yn erbyn eu cynllun erbyn diwedd mis Hydref 2013. Bydd y data hyn, ochr yn ochr â ffynonellau data eraill, fel yr Archwiliad Diabetes Cenedlaethol Clinigol, yn sail i adroddiad blynyddol ar gynnydd yn erbyn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes, a gyhoeddir erbyn diwedd y flwyddyn hon. Hefyd, bydd y byrddau iechyd yn cyhoeddi eu hadroddiadau cynnydd unigol ar eu gwefannau, a bydd holl adroddiadau’r Archwiliad Diabetes Cenedlaethol Clinigol yn cyhoeddi data ar lefel y byrddau iechyd lleol. Drwy gyfrwng y broses hon, bydd y cyhoedd yng Nghymru’n gallu asesu perfformiad y gwasanaethau diabetes yng Nghymru, ar lefel genedlaethol a lleol.            


Diweddariad Llywodraeth Cymru yn erbyn argymhellion adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei                Ymchwiliad i’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y dyfodol – Medi 2014

 

Argymhellion yr Adroddiad

Ymateb Llywodraeth Cymru – Awst 2013

 

Diweddariad Llywodraeth Cymru - Medi 2014

Argymhelliad 1

 

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yn cael ei weithredu drwy gryfhau’r trefniadau arolygu a monitro, a bod hynny’n flaenoriaeth yn y cynllun cyflawni newydd. Credwn y dylai hyn gynnwys swydd arweinydd cenedlaethol i gydgysylltu cynnydd byrddau iechyd wrth gyflawni’r Fframwaith, a hwyluso’r gwaith o rannu profiadau ac arferion da rhwng byrddau iechyd.

Ymateb: Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i weithredu’r 12 safon a nodwyd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru, a bydd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes yn cynnwys blaenoriaeth a fydd yn ymwneud â datblygu trefniadau arolygu a monitro effeithiol. Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda’r Byrddau Iechyd Lleol, Grŵp Gweithredu’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes a’r Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol ar Ddiabetes i ddatblygu trefniadau monitro cadarn ac effeithiol ar gyfer y broses o weithredu’r cynllun a’r broses barhaus o sefydlu safonau’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol.

 

Bydd rôl arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer diabetes yn cael ei datblygu i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r cynllun a chynorthwyo Byrddau Iechyd Lleol i barhau i weithredu safonau’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol. Bydd angen i’r arweinydd cenedlaethol weithio’n agos gyda’r Grŵp Gweithredu i hwyluso’r gwaith o rannu profiadau ac arferion da rhwng Byrddau Iechyd Lleol.

Mae trefniant monitro safonol wedi cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr holl Gynlluniau Cyflawni, gan gynnwys y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes. Mae’n ofynnol i fyrddau iechyd lleol gyflwyno diweddariad ar eu cynnydd gyda rhoi eu cynlluniau lleol ar waith, ac mae data ychwanegol o elfennau amrywiol yr Archwiliad Diabetes Cenedlaethol Clinigol yn cael eu defnyddio fel rhan o’r broses fonitro. Mae data archwilio ar gael yn awr ar draws yr holl archwiliadau ar lefel y byrddau iechyd lleol. Bydd y gwaith o gasglu data ar gyfer y flwyddyn gyntaf o fonitro’r Cynllun wedi dod i ben erbyn diwedd mis Hydref 2014, gydag adroddiad blynyddol ar gyfer Cymru’n cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae rôl glinigol arweiniol ar gyfer diabetes yn genedlaethol wedi cael ei datblygu ac mae Dr Julia Platts wedi cael ei phenodi. Anfonwyd manylion am ei phenodiad at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol fis Gorffennaf 2014.

Argymhelliad 2

 

Rydym yn croesawu’r cynllun cyflawni newydd ar gyfer diabetes, ac yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gymryd camau priodol os bydd byrddau iechyd yn methu darparu’r gwasanaethau a amlinellir yn y cynllun.

 

Ymateb: Derbyn

 

Y GIG yng Nghymru sy’n gyfrifol am weithredu’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes, a’r Byrddau Iechyd Lleol sy’n gyfrifol am wneud hynny ar lefel leol. Yn ogystal â monitro cynnydd, bydd Llywodraeth Cymru a’r Grŵp Gweithredu yn cefnogi Byrddau Iechyd Lleol trwy nodi cyfleoedd i gymryd camau ar lefel Cymru gyfan a thrwy hwyluso’r gwaith o rannu arfer gorau drwy adolygiadau gan gymheiriaid.

 

Bydd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes yn mynnu bod pob Bwrdd Iechyd Lleol yn llunio cynllun cyflawni lleol er mwyn mynd i’r afael â chynnydd yn erbyn y cynllun a pharhau i weithredu safonau’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes. Bydd y Byrddau Iechyd Lleol yn cael eu dwyn i gyfrif am eu cynnydd gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â’r poblogaethau lleol y maent yn eu gwasanaethu, ac er mwyn hwyluso’r atebolrwydd cyhoeddus hwn bydd gofyn i Fyrddau Iechyd Lleol gyhoeddi manylion eu cynnydd ar eu gwefannau.  Bydd camau priodol yn cael eu cymryd i herio byrddau iechyd a fydd yn methu darparu’r gwasanaethau a amlinellir yn y Cynllun Cyflawni.

 

Yn dilyn lansiad y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes fis Medi 2013, creodd yr holl fyrddau iechyd eu cynlluniau lleol eu hunain. Mae’r cynlluniau cyflawni lleol hyn wedi ystyried blaenoriaethau’r Grŵp Gweithredu Diabetes wrth iddynt gael eu datblygu, ac mae’r canlyniadau wedi cael eu cynnwys yng nghynlluniau tair blynedd integredig yr holl fyrddau iechyd.                   

Mae’r cylch monitro cyntaf ar gyfer y cynlluniau cyflawni lleol ar droed yn awr, ac mae’n ofynnol i’r byrddau iechyd gyflwyno data i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Hydref 2014. Hefyd, bydd y byrddau iechyd yn cyhoeddi eu data lleol eu hunain ar eu gwefannau, a bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data i gyhoeddi’r adroddiad blynyddol cyntaf ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes erbyn diwedd y flwyddyn hon.                 

Argymhelliad 3

 

Rydym yn argymell y dylai’r cynllun cyflawni newydd gynnwys y gofyniad i bob meddygfa deulu gymryd rhan yn yr Archwiliad Diabetes Cenedlaethol.

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Mae cymryd rhan yn yr Archwiliad Diabetes Cenedlaethol wedi bod yn ffactor hollbwysig o safbwynt datblygu gwasanaethau diabetes gwell yng Nghymru, a bydd parhau i gymryd rhan yn llawn yn yr archwiliad yn flaenoriaeth yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes.

 

Mae’r graddau y mae meddygon teulu yng Nghymru yn cymryd rhan yn yr Archwiliad Diabetes Cenedlaethol ar gyfer Oedolion wedi gwella o oddeutu 50% i dros 80% yn y cylch archwilio diwethaf, a bydd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes yn rhoi cyfarwyddyd i’r Byrddau Iechyd Lleol barhau i adeiladu ar y gwelliant hwn. Mae’n amlwg fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bractisau meddygon teulu yng Nghymru gyfrannu’n llawn at yr Archwiliad Diabetes Cenedlaethol.

Roedd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes yn datgan yn glir bod disgwyl i fyrddau iechyd chwarae rhan lawn yn holl elfennau rhaglen yr Archwiliad Diabetes Cenedlaethol Clinigol.

Mae data wedi cael eu casglu yn awr ar gyfer yr archwiliad diabetes craidd, sy’n cynnwys data meddygon teulu. Mae disgwyl i adroddiad cyntaf yr archwiliad craidd, Prosesau Gofal a Thargedau Triniaeth, gael ei gyhoeddi ym mis Hydref. Ar ôl ei gyhoeddi, bydd Llywodraeth Cymru yn asesu cyfradd gymryd rhan y meddygon teulu yng Nghymru, ac yn ystyried a oes angen gweithredu mewn rhyw ffordd.

Argymhelliad 4

 

Rydym yn argymell y dylai cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru fynnu bod y 9 prawf iechyd blynyddol allweddol yn cael eu cynnig i bob claf â diabetes, ac y dylid monitro perfformiad byrddau iechyd yn bodloni’r gofyniad hwn drwy sicrhau eu bod yn cyfranogi’n llawn yn yr

Archwiliad Diabetes Cenedlaethol.

Ymateb: Derbyn

 

Un o flaenoriaethau allweddol y Cynllun Cyflawni fydd sicrhau bod pob un o’r 9 prawf iechyd blynyddol allweddol yn cael eu cynnig i bob claf. Mae’r profion iechyd hyn yn ddangosyddion sefydlog dan y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, a chânt eu monitro hefyd yn rhan o’r Archwiliad Diabetes Cenedlaethol. Mae’r Archwiliad Diabetes Cenedlaethol wrthi ar hyn o bryd yn gweithio i sicrhau bod mesurau’r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau a’r Archwiliad yn cyd-fynd â’i gilydd, oherwydd byddai hynny’n golygu bod modd monitro’r agwedd hon gan ddefnyddio’r naill broses neu’r llall. Yn rhan o’i waith, bydd y Grŵp Gweithredu yn ystyried y ffordd ymlaen fwyaf priodol o safbwynt sicrhau y cydymffurfir â’r Cynllun Cyflawni, a fydd yn cynnwys y dull gorau o fonitro cynnydd. Bydd cymryd rhan yn llawn yn yr Archwiliad Diabetes Cenedlaethol yn flaenoriaeth dan y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes.

 

Mae’r Cynllun Cyflawni’n cynnwys cam gweithredu i gynnig y 9 archwiliad iechyd blynyddol allweddol i bob claf. Dylai’r archwiliadau hyn fod yn rhan o’r gofal arferol a gynigir o fewn y system gofal sylfaenol. 

Bydd y cynnydd o ran rhoi’r cam gweithredu hwn ar waith yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad blynyddol ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes.

Mae’r Archwiliad Clinigol Cenedlaethol ar Ddiabetes hefyd yn cynnwys manylion ar hyn fel rhan o’i adroddiad ar ‘Prosesau Gofal a Thargedau Triniaeth’, sydd i’w gyhoeddi ym mis Hydref. Ar ôl trafod gyda thîm yr archwiliad, cytunwyd y bydd data’r adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi ar-lein hefyd ar lefel y byrddau iechyd lleol, fel bod defnyddwyr lleol yn gallu asesu perfformiad eu bwrdd iechyd.              

Argymhelliad 5

 

Rydym yn argymell y dylai’r cynllun cyflawni ar gyfer diabetes newydd sicrhau bod perthynas Grwpiau Cynllunio a Chyflenwi ar gyfer Diabetes lleol â byrddau iechyd yn cael ei ffurfioli. Dylai Byrddau Iechyd ddangos sut y maent yn ystyried argymhellion y Grwpiau ac yn ymgysylltu’n llawn â’u gwaith. Dylid rhoi trefniadau ar waith i fabwysiadu dull cenedlaethol ar gyfer y Grwpiau, i gynnwys cylch gorchwyl cenedlaethol ar gyfer sut y maent yn gweithredu a gofyniad iddynt gyfarfod â’i gilydd i rannu arferion gorau.

Ymateb: Derbyn

 

Mae pob Bwrdd Iechyd Lleol wedi sefydlu Grŵp Cynllunio a Chyflenwi lleol ar gyfer Diabetes yn rhan o’r gwaith o weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes, a bydd y grwpiau hyn yn hanfodol o safbwynt cynorthwyo Byrddau Iechyd Lleol i ddatblygu eu cynlluniau cyflawni lleol sydd wedi eu diweddaru. Bydd angen i’r cynlluniau hyn ystyried anghenion eu poblogaeth leol. Yn ôl y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes bydd angen i Fyrddau Iechyd Lleol sefydlu perthynas ffurfiol â’u Grŵp Cynllunio a Chyflenwi ar gyfer Diabetes, a chynnwys cylch gorchwyl eu Grŵp yn eu cynlluniau lleol, wrth iddynt eu diweddaru. Bydd y Grŵp Gweithredu yn datblygu dull gweithredu sy’n cynnwys adolygiadau gan gymheiriaid er mwyn rhannu arferion gorau, a bydd y Grwpiau Cynllunio a Chyflenwi ar gyfer Diabetes yn cael eu cynnwys yn y broses hon. Byddant hefyd yn rhan o’r gwaith o ystyried sut i ddatblygu set gyffredin o egwyddorion ar gyfer eu cylch gorchwyl, y gall pob Bwrdd Iechyd Lleol eu mabwysiadu ar gyfer eu Grwpiau Cynllunio a Chyflenwi ar gyfer Diabetes. 

 

Mae gan bob bwrdd iechyd lleol, ac eithrio Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Grŵp Cynllunio a Chyflenwi ar gyfer Diabetes sydd wedi ymwneud â datblygu eu cynlluniau cyflawni lleol. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, wrth ystyried sut i gefnogi rhoi holl Gynlluniau Cyflawni Llywodraeth Cymru ar waith, wedi dod i’r casgliad y bydd yn symud at ddull gweithredu seiliedig ar ardal fel y dull gorau o gyflawni ar lefel leol, yn gysylltiedig â’i dair ardal o feddygon teulu.                 

Mae Cadeirydd y Grŵp Gweithredu, gyda chytundeb holl Brif Weithredwyr y byrddau iechyd, wedi ymrwymo i ymweld â Grŵp Cynllunio a Chyflenwi ar gyfer Diabetes pob bwrdd iechyd, yng nghwmni’r Prif Weithredwr lleol. Bydd yr ymweliadau hyn yn cysylltu gwaith y Grŵp Gweithredu â’r grwpiau cyflawni lleol, a hefyd yn asesu a oes unrhyw broblemau gyda dull y Grŵp Cynllunio a Chyflenwi ar gyfer Diabetes o weithio. Gyda Phowys yn symud yn awr at fodel cyflawni gwahanol, ni fyddai un cylch gwaith cyffredinol ar gyfer y Grwpiau Cynllunio a Chyflenwi ar gyfer Diabetes yn berthnasol yn awr, ond bydd yr adborth o’r ymweliadau hyn yn cael ei ystyried gan y Grŵp Gweithredu ac, os yn briodol, bydd argymhellion ar strwythurau’r Grwpiau Cynllunio a Chyflenwi ar gyfer Diabetes yn y dyfodol yn cael eu cyflwyno i’r byrddau iechyd lleol.

 

Argymhelliad 6

 

Rydym yn argymell y dylai cyflwyno system rheoli cleifion â diabetes integredig fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym yn nodi’r ymrwymiad sydd eisoes wedi’i wneud i gyflwyno system o’r fath, ac yn argymell bod amserlen glir ar gyfer ei chyflwyno yn cael ei chynnwys yn y cynllun cyflawni newydd ar gyfer diabetes.

 

Ymateb: Derbyn

 

Bydd datblygu system rheoli cleifion â diabetes integredig yn bwysig ar gyfer gwelliannau hirdymor mewn canlyniadau o ran gofal iechyd ar gyfer pobl sydd â diabetes yng Nghymru. Bydd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes yn sicrhau bod datblygu system o’r fath yn flaenoriaeth strategol allweddol ar gyfer y GIG yng Nghymru. Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru fydd yn gyfrifol am ddatblygu system rheoli cleifion, a bydd fy swyddogion yn gweithio gyda’r asiantaeth hon i lunio amserlen derfynol ar gyfer gweithredu’r system.

 

Yn dilyn trafodaethau rhwng Llywodraethau Cymru a’r Alban, cytunwyd y byddai Cymru’n gallu defnyddio system rheoli cleifion â diabetes yr Alban fel sail ar gyfer datblygu ei fersiwn ei hun. Mae Llywodraeth yr Alban wedi caniatáu i ni ddefnyddio ei system am ddim. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi gweithio gyda chydweithwyr yn yr Alban, a chlinigwyr diabetes yng Nghymru, i gwmpasu’r prosiect a’r gofynion am system yng Nghymru. Datblygwyd gofynion ac amserlenni dynodol ar gyfer y prosiect y gwanwyn yma, ac mae Achos Busnes Amlinellol yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ar gyfer cymeradwyaeth derfynol i’r prosiect. Er bod y system wedi cael ei rhoi am ddim gan Lywodraeth yr Alban, bydd costau cysylltiedig â’i datblygu, ei gweithredu a’i rheoli yn y dyfodol. Bydd y rhain yn cael eu costio’n llawn yn yr Achos Busnes Amlinellol, fel bod Llywodraeth Cymru a’r byrddau iechyd yn gallu cynllunio’n effeithiol ar gyfer ei gweithredu.

Argymhelliad 7

 

Rydym yn argymell y dylai ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd ar ddiabetes yn y dyfodol adlewyrchu’r angen i godi ymwybyddiaeth o’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig â diabetes a symptomau cynnar y clefyd.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae atal diabetes a chanfod diabetes yn gynnar yn flaenoriaethau clir ar gyfer y Llywodraeth hon, a byddant yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes. Bydd angen i unrhyw ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd yn y dyfodol gynnwys camau i godi ymwybyddiaeth o’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig â diabetes, a symptomau cynnar y clefyd. Yn ogystal, mae angen i ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd sy’n gysylltiedig ag ymddygiad o ran ffordd o fyw bwysleisio’r risgiau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad o’r fath, megis y cysylltiadau rhwng gordewdra a diabetes.

 

I gefnogi’r negeseuon iechyd y cyhoedd cyfredol, lansiwyd ‘Ychwanegu At Fywyd’ ym mis Ebrill 2014. Mae’n hunanasesiad cyfrinachol a hawdd ei ddefnyddio. Gellir ei lenwi ar-lein neu gyda chefnogaeth dros y ffôn gan Galw Iechyd Cymru. Mae’n gyfle i bobl sy’n 50 oed a hŷn gael darlun cyffredinol o’u hiechyd, a bydd yn eu cefnogi i wella eu hiechyd a’u lles gyda chamau bychain, cyraeddadwy, yn ogystal â gwella mynediad at y gwasanaethau atal mwyaf effeithiol. Mae’r system yn cynnwys asesiad risg ar gyfer diabetes, cyngor ar atal a’r cyswllt rhwng y clefyd â ffordd o fyw.   

Mae gennym hefyd ein hymgyrch Newid Bywyd Cymru, sy’n hybu ac yn annog pobl i fabwysiadu ffyrdd iachach o fyw, gan gynnwys deiet gytbwys a mwy o weithgarwch corfforol.                                 

Argymhelliad 8

 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd yn cydweithio i ehangu rôl fferyllfeydd yn y gwaith o gynnal asesiadau risg, er mwyn helpu i wella’r broses o ganfod pobl â diabetes yn gynnar. Dylai fferyllfeydd hefyd allu cyfrannu’n uniongyrchol at ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd yn y dyfodol. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru ystyried yn benodol werth cynnwys y prawf HbA1c ar gyfer cleifion presennol fel gwasanaeth ychwanegol fel rhan o Fframwaith Cytundebol Fferylliaeth Gymunedol.

 

Ymateb: Derbyn

 

Bydd canfod diabetes yn gynnar yn un o themâu allweddol y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes, a bydd gan asesiadau risg rôl bwysig i’w chwarae. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhaglen o archwiliadau iechyd ar gyfer y sawl sydd dros 50 oed er mwyn darparu adnodd ar-lein y gall pobl ei ddefnyddio i asesu eu hiechyd a’u lles. Bydd yr adnodd yn eu helpu i nodi risgiau i’w hiechyd, a bydd yn darparu cyngor ynghylch camau i leihau’r risgiau hynny a gwella eu hiechyd. Bydd hefyd yn cyfeirio pobl at y cymorth lleol mwyaf priodol ar gyfer newid ymddygiad o ran ffordd o fyw, a lle bo hynny’n briodol bydd yn rhoi cyfarwyddyd iddynt ofyn am gyngor gan eu meddyg teulu neu weithiwr proffesiynol arall ym maes iechyd.

 

Yn ogystal, o safbwynt asesiadau risg sy’n benodol i ddiabetes, gofynnir i’r Grŵp Gweithredu edrych ar atebion i’r broblem hon ar lefel Cymru gyfan. Bydd y Grŵp yn cyflwyno argymhellion ynghylch y ffordd fwyaf priodol ac effeithiol o gynnal asesiad risg mewn perthynas â diabetes ar gyfer y bobl y mae arnynt angen asesiad o’r fath, a hynny yn y man lle mae arnynt angen yr asesiad. Bydd fferyllfeydd cymunedol yn ffactor allweddol mewn unrhyw ateb o’r fath. Oherwydd eu cysylltiadau agos â’r gymuned, mae angen i fferyllfeydd gael eu hystyried wrth ddatblygu unrhyw ymgyrchoedd newydd ym maes iechyd y cyhoedd.

 

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn i’r Grŵp Gweithredu ystyried yn benodol werth cynnwys y prawf HbA1c mewn fferyllfeydd, yn rhan o’u gwaith ar ddatblygu atebion ar lefel Cymru gyfan ar gyfer asesiadau risg sy’n benodol i ddiabetes.

 

Mae canfod diabetes yn gynnar yn thema allweddol yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes. Drwy ddatblygu gwasanaeth  ‘Ychwanegu At Fywyd’ Llywodraeth Cymru, mae asesiadau risg diabetes cyfrinachol ar gael ar-lein yn awr, neu drwy Galw Iechyd Cymru, i bobl dros 50 oed. Ei nod yw eu cefnogi i wella eu hiechyd a’u lles drwy gymryd camau bychain cyraeddadwy, yn ogystal â gwella mynediad at y gwasanaethau atal mwyaf effeithiol. Wrth ehangu’r gwasanaeth, bydd cefnogaeth gymunedol yn cael ei thargedu, mewn partneriaeth â rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, er mwyn sicrhau ei fod mor effeithiol â phosib yn y cymunedau hynny sydd ei angen fwyaf. Ers ehangu Ychwanegu At Fywyd yn genedlaethol ym mis Ebrill 2014, mae mwy na 5,000 wedi ymweld â’r safle, gyda bron i 3,000 wedi cwblhau asesiadau.          

Fel rhan o flwyddyn gyntaf y Grŵp Gweithredu, sefydlwyd gweithgor i edrych ar asesu risg. Bydd y gwaith hwn yn parhau yn ystod ail flwyddyn y grŵp, gyda ffocws ar ddatblygu argymhellion clir ar gyfer datblygu ymyriadau asesu risg priodol, sy’n defnyddio modelau arloesol i dargedu grwpiau anodd eu cyrraedd. Hefyd, mae’r gwaith hwn yn ystyried addasrwydd ac ymarferoldeb datblygu profion HbA1c fel rhan o gasgliad o ymyriadau asesu risg. Mewn perthynas ag asesiadau risg diabetes, gwnaed y gwaith ffurfiol diwethaf yn y cyswllt hwn ym mis Medi 2012. Gweithredwyd ymgyrch iechyd y cyhoedd genedlaethol a chymunedol, “1 mewn 10”, ym mhob un o’r 713 o fferyllfeydd yng Nghymru ym mis Medi 2012. Fe’i hwyluswyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i chyflwyno mewn partneriaeth â Diabetes UK a’r Gymdeithas Strôc. Llenwodd mwy na 14000 o bobl yr holiaduron a chawsant wybodaeth a chyngor am y ffactorau risg cysylltiedig â diabetes a strôc. Datgelodd y dadansoddiad o’r holiaduron a lenwyd bod 14.5% yn wynebu risg uchel o ddatblygu diabetes h.y. risg o un o bob tri’n datblygu diabetes Math 2 yn ystod y 10 mlynedd nesaf.       

Hefyd, mae’r Grŵp Gweithredu Diabetes yn gweithio gyda’r Grŵp Gweithredu Clefyd y Galon ar asesiadau risg, gan fod llawer yn gyffredin rhwng ffactorau risg y ddau grŵp o glefyd.                    

Argymhelliad 9

 

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar unwaith i fynd i’r afael â’r amrywiadau yn y ddarpariaeth addysg strwythuredig ar gyfer pobl â diabetes. Dylai’r cynllun cyflawni newydd ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd ddarparu rhaglenni addysg strwythuredig sy’n cydymffurfio â’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a sicrhau mynediad cyfartal at addysg briodol, amserol i bob claf ledled Cymru.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae grymuso cleifion yn hollbwysig i wella canlyniadau o ran gofal iechyd ar gyfer pobl sydd â diabetes, ac mae addysg yn rhan hanfodol o ddatblygu’r broses o rymuso cleifion. Bydd darparu rhaglenni addysg strwythuredig am ddiabetes, sy’n cydymffurfio â’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, yn flaenoriaeth dan y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes. Mae’r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau ar gyfer 2013/14 wedi sefydlu dangosydd ar gyfer cyfeirio pobl at raglen addysg strwythuredig cyn pen 9 mis iddynt gael eu rhoi ar y gofrestr diabetes, a bydd angen i Fyrddau Iechyd Lleol sicrhau bod rhaglenni ar gael i bobl a gaiff eu cyfeirio atynt.

 

Yn ogystal â sicrhau bod pobl sydd newydd gael diagnosis o ddiabetes yn cael mynediad i addysg strwythuredig sy’n cydymffurfio â’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, bydd y Grŵp Gweithredu yn ystyried ffyrdd eraill o ddarparu addysg effeithiol i bobl â diabetes drwy’r sianelau mwyaf priodol ac effeithiol. Mae angen achub ar bob cyfle i addysgu’r sawl sydd â diabetes os ydym am wella canlyniadau o ran gofal iechyd ar gyfer y sector hwn o’r boblogaeth.

 

Mae darparu addysg strwythuredig sy’n cydymffurfio â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn amcan allweddol yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes.

Mae darparu gwell mynediad at addysg strwythuredig am ddiabetes wedi bod yn ffrwd waith allweddol ar gyfer y Grŵp Gweithredu yn ystod ei flwyddyn gyntaf. Mae wedi asesu’r capasiti a’r cyflawni ar hyn o bryd yn yr holl fyrddau iechyd a bydd yn cyflwyno argymhellion wedi’u costio i’r holl fyrddau iechyd ar ôl ei gyfarfod ddiwedd mis Medi 2014. Bydd hyn yn rhoi cyfle i fyrddau iechyd weithredu ynghylch argymhellion y grŵp yn eu cylch cynllunio blynyddol, a gwneud unrhyw newidiadau o ddechrau’r flwyddyn ariannol nesaf.          

Yn ychwanegol at waith y Grŵp Gweithredu ar addysg strwythuredig, mae hefyd yn ystyried opsiynau eraill ar gyfer cyflwyno addysg diabetes mewn sefyllfaoedd lle nad yw addysg strwythuredig yn briodol, neu ar gyfer grwpiau sydd wedi cael eu datgan fel grwpiau nad ydynt yn gallu derbyn y model hwn o addysg.

Argymhelliad 10

 

Credwn y dylai’r therapi pwmp inswlin a’r addysg gysylltiedig angenrheidiol fod ar gael i bob ymgeisydd addas i wella ansawdd eu bywydau. Rydym yn argymell bod cynllun cyflawni newydd Llywodraeth Cymru yn cynnwys gofyniad i wella’r addysg a’r hyfforddiant sydd ar gael ar ddefnyddio pympiau inswlin.

 

Ymateb: Derbyn

 

Bydd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes yn ceisio cyflawni cynnydd sylweddol yn y mynediad sydd gan gleifion i therapi inswlin dwys, gan fod tystiolaeth sy’n dangos bod triniaeth o’r fath yn lleihau cymhlethdodau microfasgwlaidd mewn diabetes math 1 a math 2. Dylai unrhyw ddarpariaeth fod yn seiliedig ar dystiolaeth a dylai ystyried dewis y claf, ond bydd y cynllun yn sicrhau bod darparu gwasanaeth pympiau inswlin yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn flaenoriaeth.

 

 

Roedd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes yn datgan bod disgwyl i fyrddau iechyd ddarparu gwasanaethau pympiau inswlin, yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.

Mae therapi pympiau inswlin yn faes gwaith y mae’r Grŵp Gweithredu yn ei ystyried fel blaenoriaeth ar gyfer ei ail flwyddyn.

Argymhelliad 11

 

Rydym yn argymell y dylid cyflwyno’r rhaglen ThinkGlucose ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Mae ThinkGlucose yn gynnyrch masnachol, ac mae’r rhaglen 1000 o Fywydau a Mwy wrthi ar hyn o bryd yn ystyried opsiynau ar gyfer cyflwyno rhaglen debyg, anfasnachol ledled Cymru. Cylch gwaith y Grŵp Gweithredu fydd ystyried atebion ar lefel Cymru ar gyfer gwelliannau mewn gofal iechyd ym maes diabetes, ac un o’i dasgau cyntaf fydd ystyried y rhaglen fwyaf priodol i’w gweithredu - ThinkGlucose neu raglen a ddatblygir yng Nghymru dan adain 1000 o Fywydau a Mwy.

 

Mae effeithiolrwydd ThinkGlucose wedi tynnu sylw at fanteision cyflwyno rhaglen o’r fath ar draws pob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru. Felly, dylid cyflwyno rhaglen briodol cyn gynted ag sy’n bosibl.

 

Roedd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes yn datgan bod disgwyl i fyrddau iechyd sefydlu a pharhau â rhaglen addysg broffesiynol barhaus i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, e.e. Think Glucose. Mae Think Glucose wedi cael ei sefydlu mewn dau fwrdd iechyd yn awr, Cwm Taf a Hywel Dda. Gan ddibynnu ar gynnydd y byrddau iechyd eraill yn gweithredu rhaglen addysg i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, a asesir ar ôl cyflwyno data monitro ym mis Hydref, bydd y Grŵp Gweithredu yn ystyried a fyddai’n fwy priodol datblygu opsiynau ar gyfer Cymru gyfan fel un o’i flaenoriaethau ar gyfer ei ail flwyddyn yn gweithredu.                                   

 

Argymhelliad 12

 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal archwiliad o nifer y nyrsys diabetes arbenigol sy’n gweithio ledled Cymru, a pha gyfran o’u hamser sy’n cael ei threulio ar ddyletswyddau cyffredinol. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried manteision cyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd ar nifer y nyrsys diabetes a argymhellir fesul pen o’r boblogaeth

Ymateb: Derbyn

 

Mae gan nyrsys diabetes arbenigol rôl hollbwysig i’w chwarae o ran darparu gofal gwell i bobl sydd â diabetes, yn y gymuned ac yn yr ysbyty, ac mae ganddynt rôl hwyluso bwysig i’w chwarae o ran darparu addysg strwythuredig. Bydd angen i argaeledd yr adnodd hwn adlewyrchu anghenion lleol yn ddigonol wrth i gynlluniau cyflawni lleol Byrddau Iechyd Lleol ar gyfer diabetes gael eu datblygu.

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal archwiliad o nyrsys diabetes arbenigol yn unol â’r argymhelliad, a bydd yn gweithio gyda’r Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol ar Ddiabetes i ystyried manteision cyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ddata gan y byrddau iechyd i gyd ar gyfer archwiliad ar Nyrsys Diabetes Arbenigol. Yn ychwanegol at nifer y staff, gofynnodd yr archwiliad am ddata am hyfforddiant a gweithgarwch cefnogi arall, er mwyn adlewyrchu rôl a swydd y Nyrsys hyn yn llawn, yn eu cyd-destun lleol.

Mae’r byrddau iechyd i gyd wedi cyflwyno data, ac mae adroddiad drafft yn cael ei baratoi i asesu’r ymatebion ac i gyflwyno argymhellion. Mae disgwyl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi yn hydref 2014.

Argymhelliad 13

 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn monitro gallu’r Gwasanaeth Sgrinio Retinopathi Diabetig i ddarparu archwiliadau blynyddol i gleifion diabetig wrth i’r achosion cynyddol o ddiabetes gynyddu’r galw am y gwasanaeth.

 

Ymateb: Derbyn

 

Ers ei gyflwyno, mae’r Gwasanaeth Sgrinio Retinopathi Diabetig wedi darparu gwasanaeth sgrinio ar gyfer Cymru gyfan er mwyn sicrhau bod retinopathi diabetig sy’n peryglu’r golwg yn cael ei ganfod yn gynnar, cyn i unigolyn ddechrau colli ei olwg. Mae effeithiolrwydd parhaus y gwasanaeth hwn yn allweddol o safbwynt gwella triniaeth a gofal ar gyfer pobl sydd â diabetes.

 

Bydd capasiti’r Gwasanaeth Sgrinio Retinopathi Diabetig i ddarparu archwiliadau blynyddol yn rhan o’r gwaith o fonitro’r modd y caiff y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes ei weithredu. Bydd y Grŵp Gweithredu hefyd yn ystyried beth yw’r ffordd orau y gall yr adnodd hwn ddarparu gwasanaeth sgrinio yn y dyfodol gan sicrhau ar yr un pryd bod data’r gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i wella ymchwil, gyda’r bwriad o gyflawni canlyniadau ychwanegol o ran iechyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos â’r Gwasanaeth Sgrinio Retinopathi Diabetig ar gyfer Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er mwyn sicrhau effeithiolrwydd parhaus ac i ystyried sut gellir cyflwyno’r gwasanaeth gorau posib yn y dyfodol. Mae adroddiad blynyddol ar weithgarwch y gwasanaeth yn ystod blwyddyn ariannol 2013/14 wedi cael ei gyhoeddi, fel bod tryloywder llawn o ran ei weithgarwch a’i effeithiolrwydd ar hyn o bryd. Bydd data o’r adroddiad hwn yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad cynnydd blynyddol ar gyfer y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes, a gyhoeddir cyn diwedd y flwyddyn.                 

Ar yr 17eg o Fedi, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid gwerth £561,000 i gymryd lle 34 Camera Retinal Digidol. Dyma fuddsoddiad yn y camerâu technolegol diweddaraf a fydd yn galluogi i Wasanaeth Sgrinio Retinopathi Diabetig Cymru barhau i ganfod niwed i’r retina a achosir gan ddiabetes. Bydd hyn yn galluogi i bawb sydd dros 12 oed sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes ac sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru gael eu cyfeirio a’u sgrinio bob blwyddyn.